Yma yn negfed albym Siân James ceir casgliad o emynau a cherddi ysbrydol wedi’u priodi âg alawon traddodiadol a chyfansoddiadau gwreiddiol Siân ei hun. Yn sicr mae yma naws myfyrgar, gyda’r themau oesol hynny o ffydd, gobaith a chariad yn linyn arian drwy’r cyfan. darllen mwy
- Rhwng
- Emyn Gosber
- Dan nawdd Duw (Nadolig 1916)
- Gwna fi fel pren
- O am gael Ffydd
- Er mai cwbwl groes i natur
- Dyma Frawd
- Rho im yr hedd
- Pomgranadau
- Wele’n sefyll
- Llef
- Arglwydd dyma fi
Dros y blynyddoedd mae’r syniad o gyfansoddi cerddoriaeth sydd yn fwriadol ar gyfer tawelu’r meddwl a’r galon wedi fy ysbrydoli.
Bu’r cd hon yn ffrwtian ers rhai blynyddoedd bellach ond am resymau brith ni welodd olau dydd tan rwan. Dechreuodd ei thaith fel casgliad o ddehongliadau o emynau Ann Griffiths yn dilyn comisiwn gan S4C i roi cerddoriaeth at ei gilydd ar gyfer rhaglen am ei bywyd. Ond wrth i lwybr bywyd daflu ambell i brofiad heriol i’m rhan, datblygodd pethau i fod yn fwy personol rhywsut, ac agorwyd llifddorau’r awen diolch i’r heriau hynny.
Felly mae yma ystod eang o arddulliau a theimladau - rhai’n drefniannau syml o emynau poblogaidd; eraill yn ddehongliadau mwy mentrus, a chaneuon eraill sydd yn adlewyrchiad o fy nheimladau tyfnaf am wahanol cysyniadau.
Er na fyddwn yn ystyried fy hun yn berson crefyddol fel y cyfryw, does dim dwywaith fy mod wedi cael cryn gysur o eiriau’r emynau hyn, yn enwedig y themau ysbrydol hynny o ffydd, gobaith a chariad sydd yn amlwg yn rhan mor annatod o’r cynnwys.
Gobeithio y cewch chi hefyd ysbaid fach o dawelwch a llonyddwch wrth wrando ar Gosteg.