Cymun
2012 Recordiau Bos - RBOS 022

Bu treigl amser a chyflymder ei hynt yn destun gofid i mi ers sawl blwyddyn bellach!
Ond serch hynny mae’n anodd gen i gredu bod chwe mlynedd wedi pasio ers yr albym ddiwethaf sef Y Ferch o Bedlam, a theimlai fel ddoe pan...
darllen mwy

Y Caneuon
  1. Ffarwel i Aberystwyth
  2. Nant yr Eira
  3. Os daw fy Nghariad
  4. Dawel Disgyn
  5. Y Plentyn Amddifad
  6. Gweld Sêr
  7. Yr Eneth Glaf
  8. Mae Nghariad i'n Fenws
  9. Er mai cwbwl groes i natur
  10. Y Wasgod
  11. Y Llyn
  12. Cymun
Cymun
...o’n i’n chwysu’n wirion yn y stiwdio gyda Gwyn wrth fy ochor, wrth i ni geisio cael yr albym honno allan erbyn Nadolig 2005.
Ond rhag i chi feddwl mod i wedi bod yn diogi’n braf yn fy mwthyn bach ar y bryn yn ystod y chwe mlynedd dwytha’, nid felly y bu hi coeliwch chi fi. Tyfodd poblogrwydd Cut Lloi yn flynyddol ac yn sgil hynny, nifer y cyngherddau yn ogystal a dwy albym; daeth ambell brosiect ddifyr i law fel cyfansoddi caneuon newydd i wahanol raglenni S4C, albym o hwiangerddi i Mudiad Ysgolion Meithrin o’r enw Adar ac Aneifeiliaid; teithiau tramor i Lydaw, America a’r Iseldiroedd; ysgrifennu hunangofiant; ac wrth gwrs y job bwysicaf oll - magu’r cogie!
O ganlyniad i’r digwyddiadau uchod - yn uniongyrchol ac anuniongyrchol - ychwanegwyd caneuon a threfniannau newydd i’r ‘repertoire’ a meddyliais mai da o beth fyddai rhoi’r caneuon hynny ar gof a chadw, ynghyd a sawl cyfansoddiad arall nas cofnodwyd dros y blynyddoedd, rhag i dreigl amser eu bwrw i abergofiant!
Cofnod felly yw’r albym yma, ac er nad oes thema yn perthyn i’r casgliad fel y cyfryw, yr hyn sydd yn linyn arian drwyddi yw fy nghariad at gerddoriaeth a’i phwysigrwydd yn fy mywyd.