Cyfweliad ar Radio Shrophire

Cefais awran fach hyfryd neithiwr yng nghwmni hen gyfaill yn y sîn gwerin yn Lloegr, sef Genevieve Tudor. Mae rhaglen werin ganddi ar donfeddi Radio Shropshire a chawsom sgwrs am y cd newydd a’r traddodiad gwerin yng Nghymru.
Braf oedd cael y cyfle i godi allan unwaith yn rhagor ar ôl cyfnod ‘hyrmut-aidd’ fel petai dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd, diolch i hen ffliw annifyr ddaeth i blagio Llywelyn (y mab ieuengaf) a minnau. ‘Blydi Noro’ dduda i!!!
Hefyd, er gwybodaeth, dyma ddyrnaid o gyngherddau a phrosiectau sydd gen i yn y dyfodol agos.
Gobeithio wir i’r rhan fwyaf ohonoch chi gael Nadolig a Blwyddyn newydd ddi-chwa!!

Chwefror 12: Mae TRAC, dan arweiniad Angharad Jenkins o’r grwp Calan yn trefnu prosiect o’r enw ’10 mewn bws!’, pan fydd cerddorion ifanc o gefndiroedd cerddorol amrywiol yn teithio Cymru mewn bws, gyda’r bwriad o ehangu eu profiad a’u gwybodaeth o gerddoriaeth gwerin yng Nghymru. Syniad gwych ‘te! Fel rhan o’r daith mi fyddaf yn rhannu sgwrs a chân gyda’r criw yn ystod prynhawn y 12fed o fis nesa’ .

Chwefror 15: Mi fyddaf yn cymryd rhan yng Ngwyl Delynau Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd yng nghyntedd y Coleg Cerdd a Drama, a hynny am 1 o’r gloch ar y 15fed o Chwefror.

Chwefror 16: Cyngerdd gyda Pharti Cut Lloi yng Nghlwb Rygbi Dolgellau

Mawrth 3: Cyngerdd amser cinio yng Ngerddi Botaneg Caerfyrddin fel rhan o raglen ‘Celtic Women’. Cychwyn am 1 o’r gloch.

Mawrth 8: Cyngerdd i ddathlu Gwyl Ddewi yng nghwmni Clwb Cymraeg y Fenni

Mawrth 16: Cyngerdd amser cinio fel rhan o ddathliadau Merched y Wawr yng Ngwesty Plas Isaf, Corwen