Y misoedd diwethaf....

O’r diwedd dyma frawddeg neu ddau i’ch cyfarch chi ar fy mlog newydd! Fedrai ddim addo ichi y byddaf yn driw iddo BOB mis ond mi driai ngore!
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol o brysur rhwng popeth! Recordio a chwblhau yr albym newydd Cymun; trefnu’r noson lansio yn Nhy Golchi (diolch i bawb a gyfrannodd mor hael i’r noson fythgofiadwy honno); cyfres o gyngherddau i hyrwyddo bob dim; cyngherddau cyson efo Cut LLoi (diolch iddyn nhw am eu gwaith caled dros y ystod y flwyddyn a fu), ac wrth gwrs dipyn o waith haslo a hyrwyddo’r albym.
Mae’r ymateb i’r albym wedi bod yn galondid mawr i mi a dweud y gwir - diolch o galon i chi gyd am eich cefnogaeth! Wir i chi mae’n golygu lot fawr i mi.
O ran y gigs - mi ges i noson sbeshial iawn yn Nhy Golchi (cyn y noson lansio). Noson gyfeillgar ac agos atoch chi.
Yna fues i yn cynnal noson i Ferched y wawr ym Meifod - noson hwyliog yn son am yr hunangofiant a chanu ambell i gan!
Noson ffantastic yng nghwmni trigolion yr Wyddgrug fel rhan o Wyl Daniel Owen - diolch i Eirian am drefnu!
Noson glen iawn yng Nghlwb y Railway ym Mangor yn syportio Steve Eaves - braint!
Ac yna penwythnos cofiadwy yng Nghaerdydd: dydd Gwener treulio’r prynhawn yng nghwmni difyr myfyrwyr drama Prifysgol Morgannwg yn yr Atrium. Dyna griw bach bendigedig - brwdfrydig, hwyliog a mor gyfeillgar. I goroni’r cyfan fe ddysgon ni garol Plygain. Briliant!! Diolch Rhiannon am y gwahoddiad.
Dydd Sadwrn wedyn yng nghwmni Cut Lloi wrth iddyn nhw berfformio ar lwyfan y Lanfa yng Nghanolfan y Mileniwm. Awyrgylch braf Nadoligaidd yn enwedig wrth glywed y carolau plygain yn atseinio yn y ganolfan. Cafwyd noson hwyliog wedyn yn y Mochyn Du ......
Yna fues inne’n canu ar lwyfan y Lanfa yng nghwmni Geraint Cynan. Dyna braf oedd gweld wynebau hen ffrindiau a theulu yn y gynulleidfa.
Caru hi gyd!
Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda, llawn bendithion i chi gyd. x

Y Lansiad yn Ty Golchi..!
Arfon, Cynan a Stephen
Siani!
Stephen, Llywelyn a Gwyn!
IMG_0386
IMG_0388